Wednesday, June 26, 2013

"I think we have the red carpet in front of us."- Lord Sebastian Coe, Olympic and Paralympic Legacy Ambassador.


On Monday 17th June 2013, 250 key decision makers within the sector came together for the Sport Wales Annual Conference to discuss leadership and legacy. Danielle, who carried out a work placement with the Sport Wales Communications Team, blogs about her account of the day discussing the successes and challenges that being a leader and upholding a legacy can bring and explaining what she learnt from the most inspiring people within the sporting sector.
 
The Sport Wales Team
 
As we look forward to Glasgow 2014, Rio 2016, the World Cup in Russia 2018 and a possible Cardiff Commonwealth Games in 2026, we must use the success of the London 2012 Olympics and Paralympics as a turbo charge to create attraction across the globe. Discussions throughout the day talked of planning this success.

 Key note speakers included Lord Sebastian Coe, Olympic and Paralympic Legacy Ambassador; Professor Laura McAllister, Chair of Sport Wales; John Griffiths AM, Minister for Culture and Sport; Sir Keith Mills GBE, Chair and Founder of the Sported Foundation and Doctor Ruth Hussey, Chief Medical Officer in Wales.

 As a 'must attend' event, it was critical to the success of the day to use social media as a tool to keep those who couldn’t attend updated. My role included using the Sport Wales Twitter account as a way of communicating the key messages and directing questions to the panel.  Below is a little bit about what each speaker talked about and what I have taken away from it.

 Lord Sebastian Coe, Olympic and Paralympic Legacy Ambassador

 

Lord Seb Coe & Laura McAllister meet with Young Ambassadors
 
During his address, Lord Sebastian Coe truly encapsulated the success of the 2012 Olympic and Paralympic Games. He talked through the breakdown of making the games a success and how athletes at international level honourably inspire everyone to get involved with sport. As well as addressing the sector, he visited Fitzalan High School in Cardiff, where he discussed Olympic Legacy and challenged the pupils to a game of wheelchair basketball.

 Professor Laura McAllister, Chair of Sport Wales

 Laura McAllister placed great emphasis on "getting more from every welsh pound within the sector."

She expresses similar thoughts to me in that 'I can't not find the time to be active.'

As a 'smart, small nation' she expressed that we should not be afraid of regeneration and change. On a personal level I learnt that leadership is about your 'vision', being ambitious, being yourself and not taking yourself too seriously.

 John Griffiths AM, Minister for Culture and Sport

 John Griffiths AM, Minister for Culture and Sport, discussed the Government’s aims to 'widen access', have 'greater access’ to sport and 'be known across the world.' Here I learnt about the challenges we face within the sector, for example inequalities being on the top of the list of priorities for the Commonwealth Games, along with the growing rate of obesity and the difficulties to drive forces of general physical activity.

 Dr Ruth Hussey, Chief Medical Officer

 Dr Ruth Hussey, Chief Medical Officer discussed the legacy programme and how it fits in with health and well-being and the success of future events by getting everyone to 'move more.'  A very moving speech surrounding legacy that appealed to emotion. Key words expressed were 'numbers' and 'narrative'; having the right people to do the job but also being able to put yourself in someone else's shoes and listen to others.

Helen Humphrey and Dan Tyte, Sport Wales Advisory Group

 Helen Humphrey, Chair and Dan Tyte, Vice-Chair from the Sport Wales Advisory Group discussed new ideas for 2026 and beyond including attempting to bring the Commonwealth Games to Cardiff. It was interesting to hear everyone’s view on this decision throughout the day – those I spoke with agreed it would be a brilliant idea to bid for the games. They also discussed ‘The people agenda’ where I learnt about the framework for volunteering development.

 Dr Paul Thomas, BBC Business Doctor

Dr Paul Thomas, Founder of DNA Global Solutions and BBC Radio Wales Business Doctor was the highlight of the conference for me. He explained that:

 “TRUST is critical, RISK fundamental and CREATIVITY is central to success.”

 His speech has taught me to become more relaxed about entering the world of work in media - he taught me to own what is rightfully mine and to use my passion to become a great leader. I also learnt that your ability to be a great leader does not run parallel to your status, position or hierarchy. The key word used was ‘coevolution’; the idea that to be a great leader occurs naturally - you either have it or you don’t.  However the more you connect face to face with others the bigger your ability is to evolve.

 He further discussed what it is that young people want out of a job, he expressed that the answers to our future could come from the youth. They want ‘freedom’, ‘autonomy’, ‘money’ and ‘power.’ In order to get these you must ‘trust and allow room for risk-taking’. You must ‘recognise and adapt your style.’ For me, at the beginning of my career these points couldn’t be more crucial.

 I’m going to leave you with one final quote from Dr.Paul Thomas to think about and take on board for your own future:

 “Complain about it afterwards…but at least have a go!”

 Danielle



"Rydw i’n meddwl bod y carped coch yn ein haros ni."- Yr Arglwydd Sebastian Coe, Llysgennad Etifeddiaeth Olympaidd a Pharalympaidd.                

 
Ddydd Llun 17eg Mehefin 2013, daeth 250 o lunwyr penderfyniadau allweddol y sector at ei gilydd ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Chwaraeon Cymru, er mwyn trafod arweiniad ac etifeddiaeth. Blog Danielle yw hwn – ei chofnod hi o’r diwrnod – gan drafod y llwyddiannau a’r heriau sy’n wynebu arweinwyr a’r cyfrifoldeb am gynnal etifeddiaeth, ac egluro beth ddysgodd hi gan y bobl fwyaf ysbrydoledig yn y sector chwaraeon.                  

 Wrth i ni edrych ymlaen at Glasgow 2014, Rio 2016, Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018 a Gemau Cymanwlad posib yng Nghaerdydd yn 2026, mae’n rhaid i ni ddefnyddio llwyddiant Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 fel sbardun i ddenu sylw byd-eang. Bu’r trafodaethau drwy gydol y dydd yn rhoi sylw i gynllunio’r llwyddiant hwn.                                 

 Ymhlith y prif siaradwyr roedd yr Arglwydd Sebastian Coe, Llysgennad Etifeddiaeth Olympaidd a Pharalympaidd; yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru; John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; Syr Keith Mills GBE, Cadeirydd a Sylfaenydd Sported Foundation a’r Meddyg Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Ac yntau’n digwyddiad mor bwysig, roedd defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel adnodd i roi gwybodaeth gyson i’r rhai na allent fynychu yn allweddol i lwyddiant y diwrnod. Roedd fy rôl i yn cynnwys defnyddio cyfrif Twitter Chwaraeon Cymru fel cyfrwng i gyfathrebu’r negeseuon allweddol a chyfeirio cwestiynau at y panel.  Isod rydw i wedi crynhoi peth o gynnwys areithiau’r siaradwyr a’r hyn ddysgais i ganddyn nhw.        

 Yr Arglwydd Sebastian Coe, Llysgennad Etifeddiaeth Olympaidd a Pharalympaidd                  

Yn ystod ei anerchiad, aeth yr Arglwydd Sebastian Coe ati i grisialu llwyddiant Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012. Soniodd am fanylion y gwaith o wneud y Gemau’n llwyddiant a sut mae athletwyr ar lefel ryngwladol yn ysbrydoliaeth anrhydeddus i bawb gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn ogystal ag annerch y sector, bu yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd, lle bu’n trafod yr Etifeddiaeth Olympaidd ac yn herio’r disgyblion i gêm o bêl fasged cadair olwyn.                 

Yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru

 Rhoddodd Laura McAllister bwyslais mawr ar "gael mwy am bob punt yng Nghymru yn y sector". Fe fynegodd feddyliau tebyg i fy rhai i, o ran ‘dydw i ddim yn gallu dod o hyd i amser i fod yn egnïol’.  

 Fel ‘cenedl glyfar, fechan’, dywedodd na ddylem ofni adfywio a newid. Ar lefel bersonol, fe ddysgais i bod arweiniad yn ymwneud â’ch ‘gweledigaeth’ chi, bod yn uchelgeisiol, bod yn chi eich hun a pheidio â chymryd  eich hun ormod o ddifrif.            

 John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

 Trafododd John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, amcanion y Llywodraeth ar gyfer 'ehangu mynediad’, sicrhau ‘mwy o fynediad’ at chwaraeon a 'bod yn adnabyddus ledled y byd'. Yma fe ddysgais i am yr her rydym yn ei hwynebu yn y sector, er enghraifft, anghydraddoldeb ar frig rhestr blaenoriaethau Gemau’r Gymanwlad, ynghyd â thwf yn y gyfradd ordewdra a’r anawsterau wrth geisio sbarduno gweithgarwch corfforol cyffredinol.              

 Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Trafododd Dr Ruth Hussey, y Prif Swyddog Meddygol, y rhaglen etifeddiaeth a sut mae’n cyd-fynd â iechyd a lles, a llwyddiant digwyddiadau yn y dyfodol drwy gael pawb i ‘symud mwy’. Araith am etifeddiaeth a oedd yn rhoi gwefr ac yn apelio at yr emosiwn. Ymhlith y geiriau allweddol a fynegwyd roedd ‘niferoedd’ a ‘naratif’; cael y bobl briodol i wneud y gwaith, ond hefyd gallu eich rhoi eich hun yn esgidiau rhywun arall a gwrando ar eraill.                                             

 Helen Humphrey a Dan Tyte, Grŵp Ymgynghorol Chwaraeon Cymru                           

 Bu Helen Humphrey, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Chwaraeon Cymru, a Dan Tyte, yr Is-Gadeirydd, yn trafod syniadau newydd ar gyfer 2026 a thu hwnt, gan gynnwys ymgais i ddenu Gemau’r Gymanwlad i Gaerdydd. Roedd yn ddiddorol clywed barn pawb am y penderfyniad hwn drwy gydol y dydd – roedd y rhai y bûm i’n siarad â nhw’n cytuno y byddai’n syniad gwych gwneud cais am y Gemau. Hefyd, bu’n trafod yr ‘Agenda Pobl’, ble dysgais am y fframwaith ar gyfer datblygu gwirfoddoli.              

Dr Paul Thomas, Meddyg Busnes y BBC                 

Dr Paul Thomas, Sylfaenydd DNA Global Solutions a Meddyg Busnes BBC Radio Wales, oedd uchafbwynt y gynhadledd i mi. Eglurodd bod: “YMDDIRIEDAETH yn hanfodol, RISG yn sylfaenol a CHREADIGRWYDD yn ganolog i lwyddiant.”

Fe wnaeth ei araith ddysgu i mi ymlacio mwy am ddod yn rhan o fyd gwaith y cyfryngau – fe ddysgodd i mi y dylwn fod yn berchen ar yr hyn sy’n eiddo’n gyfiawn i mi a defnyddio fy angerdd i ddod yn arweinydd gwych. Hefyd, dysgais nad yw eich gallu i fod yn arweinydd gwych yn rhedeg ochr yn ochr â’ch statws, eich swydd neu hierarchaeth. Y gair allweddol a ddefnyddiwyd oedd ‘cydesblygu’; y syniad bod tyfu i fod yn arweinydd gwych yn digwydd yn naturiol – mae o naill ai gennych chi neu ddim. Er hynny, po fwyaf yr ydych chi’n cysylltu wyneb yn wyneb ag eraill, y mwyaf yw eich gallu chi i esblygu.                  

 Trafododd ymhellach beth mae pobl ifanc yn chwilio amdano mewn swydd. Dywedodd y gallai ein hatebion ar gyfer ein dyfodol ddod gan ieuenctid. Maen nhw eisiau ‘rhyddid’, ‘ymreolaeth’, ‘arian’ a ‘phŵer’. Er mwyn cael y rhain, mae’n rhaid cael ‘ymddiriedaeth a rhoi lle i gymryd risg’. Mae’n rhaid i chi ‘gydnabod ac addasu eich arddull’. I mi, ar ddechrau fy ngyrfa, roedd y pwyntiau hyn yn hynod allweddol.                    

 Rydw i am eich gadael chi gydag un dyfyniad terfynol gan Dr Paul Thomas, i gnoi cil arno ac i’w ystyried ar gyfer eich dyfodol chi eich hun:

“Cwynwch am y peth wedyn ... ond rhowch gynnig arni o leiaf!”

 
Danielle