Monday, June 24, 2013

Once in a Lifetime Opportunity for School Sport, by Professor Laura McAllister

With the announcement that the Ministerial Task and Finish Group has made a single recommendation for physical education to become a core subject in Welsh schools, Professor Laura McAllister, Chair of Sport Wales, gives her views on what this means for sport in Wales.



The publication today of the report of the Task and Finish Group on PE and School Sport should mark a turning point, not only in the participation levels of children and young people in sport in Wales, but also, in time, the broader health and well-being of the nation.

 The establishment of this group provided  a once in a lifetime opportunity to radically transform the Physical Education experience for all children and young people in Wales and I applaud the Welsh Government for taking this brave step. I know my colleagues in England are looking enviously at us in Wales. This is a chance for Wales to be world leading in school sport, PE and physical activity.

We could have made a series of recommendations that sought to provide a piecemeal improvement in the school sport and PE experience. However, we were clear that this would not make the bold statement about Wales’ national priorities that we believed was needed. The single ground breaking recommendation to make PE a core subject in the national curriculum sends a clear message about how we value physical activity, PE and those who teach it. At the heart of this recommendation is to make PE a lesson that is enjoyed by all children, girls and boys, sporty and less sporty, as well as raising the standard and profile of this subject as a core life skill for all.

Everyone on the group recognised that we have some outstanding examples of the delivery of PE, where teachers are ensuring lessons are inclusive, making the most of young people with a passion to mentor and encourage their peers. Invariably these schools have a head teacher who is engaged and passionate about ensuring young people are well equipped to become active citizens, in both an academic and physical sense. It is our belief that these examples should set the standards for all, rather than being exceptions.

Far too many young people face PE lessons with trepidation, feeling inadequate or being singled out because of a lack of skills or ability. The level of enjoyment of PE highlighted by our 2011 School Sport Survey confirms this anecdotal evidence. Through acting on this recommendation the Welsh Government can confine these stories firmly to the past. Making the statement that it is every child’s right to have a high quality, positive experience of sport in schools, with PE being at the heart of this.

All involved with the group firmly believed that the step to make PE a core subject would be the single most powerful statement that the Welsh Government could make about its determination to secure a healthier future for our children and to deliver the commitment in the programme for government that physical literacy is as important as reading and writing. Recognising that this is not just about creating a generation that is equipped to participate in sport like no other, but about reducing the future burden on the health service, raising aspirations, building confidence, and improving attendance and attainment. Creating a Wales that is a world leader in how it uses physical activity to engage and inspire our children.

The school experience is particularly important for those groups who are underrepresented in participation figures. For example we know that children and young people who live in poverty participate in curricular activity at the same level as their peers, but are less likely to be taking part in community activity. Whilst this is not something that we accept as inevitable, it demonstrates the need to ensure that the sport they are experiencing at school is of a high quality. Many of the groups who feel sport is not for them identify the school experience as one of the reasons why they do not get involved.


We all realise that in this economic climate tough decisions have to be taken and priorities made. I hope that through this one bold and pioneering recommendation we have set the clear priority not only for the future delivery of Physical Education, but for improving Wales as a nation.

For more visit www.sportwales.org.uk 

*****

Dylai cyhoeddi adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar AG a Chwaraeon Ysgol heddiw fod yn drobwynt, nid yn unig o ran lefelau cymryd rhan plant a phobl ifanc mewn chwaraeon yng Nghymru, ond hefyd, ymhen amser, iechyd a lles y genedl yn gyffredinol.          

Mae sefydlu’r grŵp hwn wedi bod yn gyfle unigryw i drawsnewid profiad Addysg Gorfforol yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru yn radical a hoffwn ganmol Llywodraeth Cymru am gymryd y cam dewr hwn. Rydw i’n gwybod bod fy nghydweithwyr i yn Lloegr yn genfigennus iawn ohonom ni yng Nghymru. Dyma gyfle i Gymru arwain y byd mewn chwaraeon ysgol, AG a gweithgarwch corfforol.

Byddem wedi gallu gwneud cyfres o argymhellion i geisio darparu gwelliannau fesul tipyn i’r profiad o chwaraeon ysgol ac AG. Fodd bynnag, roeddem yn glir na fyddai hyn yn gwneud y datganiad beiddgar yr oedd ei wir angen yn ein barn ni o ran blaenoriaethau cenedlaethol Cymru. Mae’r argymhelliad unigol arloesol i wneud AG yn bwnc craidd yn y cwricwlwm cenedlaethol yn anfon neges glir am sut rydym yn gweld gwerth mewn gweithgarwch corfforol, AG a’r rhai sy’n eu dysgu. Wrth galon yr argymhelliad hwn mae gwneud AG yn bwnc sy’n cael ei fwynhau gan bob plentyn, yn fechgyn a merched, y rhai sy’n hoff iawn o chwaraeon a’r rhai llai hoff o chwaraeon, yn ogystal â chodi safon a phroffil y pwnc fel sgil bywyd craidd i bawb.       

Mae pob aelod o’r grŵp yn cydnabod bod gennym enghreifftiau rhagorol o gyflwyno AG, gydag athrawon yn sicrhau bod eu gwersi’n gynhwysol ac yn gwneud y defnydd gorau o’r bobl ifanc sydd ag angerdd dros fentora ac annog eu cyfoedion. Yn ddi-eithriad, mae gan yr ysgolion hyn bennaeth sy’n frwd ac yn angerddol dros sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu paratoi’n dda i fod yn ddinasyddion gweithredol, yn academaidd ac yn gorfforol. Rydym yn credu y dylai’r enghreifftiau hyn osod y safon i bawb, yn hytrach na bod yn eithriadau.         

Mae llawer gormod o bobl ifanc yn amheus o wersi  AG, ac yn teimlo’n annigonol neu’n ofni tynnu sylw atynt eu hunain oherwydd diffyg sgiliau neu allu. Mae lefel y mwynhad o AG, y tynnwyd sylw ato gan ein Harolwg ar Chwaraeon Ysgol yn 2011, yn cadarnhau’r dystiolaeth hon. Drwy weithredu ar yr argymhelliad hwn, gall Llywodraeth Cymru gloi’r straeon hyn yn gadarn yn y gorffennol. Dyma ddatganiad bod gan bob plentyn hawl i brofiad cadarnhaol, o safon uchel, o chwaraeon mewn ysgolion, gydag AG wrth galon hyn.       

Roedd pawb a oedd yn ymwneud â’r grŵp yn credu’n gryf mai’r cam i wneud AG yn bwnc craidd fyddai’r datganiad unigol mwyaf pwerus y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud am ei benderfyniad i sicrhau dyfodol iachach i’n plant ni ac i gyflawni’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i sicrhau bod llythrennedd corfforol yr un mor bwysig â darllen ac ysgrifennu. Byddai’n cydnabod nad yw hyn yn ymwneud yn unig â chreu cenhedlaeth sy’n barod i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn wahanol i bob cenhedlaeth arall, ond â lleihau’r baich yn y dyfodol ar y gwasanaeth iechyd, cynyddu dyheadau, magu hyder, a gwella presenoldeb a chyflawniad. Creu Cymru sy’n arweinydd byd o ran sut mae’n defnyddio gweithgarwch corfforol i gynnwys ac ysbrydoli ein plant.

Mae’r profiad yn yr ysgol yn hynod bwysig i’r grwpiau hynny a dangynrychiolir yn y ffigurau cymryd rhan. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi yn cymryd rhan mewn gweithgarwch cwricwlaidd ar yr un lefel â’u cyfoedion, ond maent yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch cymunedol. Er nad ydym yn derbyn bod hyn yn anochel, mae’n dangos yr angen am sicrhau bod y profiadau chwaraeon maent yn eu cael yn yr ysgol o safon uchel. Mae llawer o’r grwpiau sy’n teimlo nad yw chwaraeon ar eu cyfer nhw’n dweud mai eu profiad yn yr ysgol yw un o’u rhesymau dros beidio â chymryd rhan.


Rydym i gyd yn sylweddoli bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd a dewis blaenoriaethau anodd yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Rydw i’n gobeithio ein bod ni, gyda’r argymhelliad beiddgar ac arloesol unigol hwn, wedi datgan y flaenoriaeth yn glir, nid yn unig ar gyfer cyflwyno Addysg Gorfforol yn y dyfodol, ond ar gyfer gwella Cymru fel cenedl.