Wednesday, June 26, 2013

Leading a Generation - The Young Ambassador movement give their thoughts on the Sport Wales 2013 Conference



The Young Ambassadors with Lord Sebastian Coe




As the leaders of the future, the Young Ambassadors played an important role in this year’s conference. Platinum Young Ambassador’s Carwen Richards and Natalie Davies give their opinions on the day….

Carwen Richards, Bangor University

Young Ambassadors were involved throughout the Sport Wales conference this year. My role was to facilitate during a question and answer session consisting of a panel of 5 individuals currently linked with the Young Ambassador programme. This was a fantastic experience for both me and Natalie as facilitators, and also for Molly, another YA who actually sat on the panel.

Our main topic was ‘The importance of supporting Young Ambassadors to undertake their roles’. We received questions from the floor which the panel then discussed; some great suggestions and ideas were noted from the experienced panel as well as the audience.

I particularly enjoyed meeting Lord Seb Coe, along with the other Young Ambassadors, who were present from all across the country. There were Bronze, Silver, Gold and Platinum Young Ambassadors represented on the day.

 Dr Paul Thomas, a keynote speaker, was also a highlight. He approached leadership and management in a very humorous and honest manner. As a young person and as a student, I could relate to his stories, and I felt that I learnt a lot about life in general in his speech!

 Personally, I feel that the Young Ambassadors’ involvement throughout the day was essential. As a YA I feel that we can put everything into perspective. We are young people; we are young people that want to lead others and make others want to follow our lead.

To conclude, I believe that the Sport Wales Conference 2013 was a huge success. It was beneficial for us to be part of such an enjoyable day, mixing with the famous Jamie Baulch, Rupert Moon and Lord Seb Coe as our own friends!

 From my point of view, it was also beneficial to the participants in the workshops to have us there; to hear young people’s voices first hand and to discuss with us our experiences as Young Ambassadors. We are all thriving for the same thing: An increase in participation in sport in Wales, and having so many multi-talented young people spreading the word of sport to those who do care about the future of sport in Wales will only open more doors for us in the future.

 Natalie Davies, Neath Port Talbot College

 I had the pleasure of attending the Sport Wales annual conference on Monday 17th June. I always love attending and contributing to the conference days as they are always filled with inspiration.

My role in the conference was to facilitate a Q&A panel based on the importance of supporting Young Ambassadors. On the panel was a representative from all areas, NGB, 5X60 Officer, Sport Wales board member, Head teacher and a Gold YA.

 
The panel was one of the best I had experienced from attending different conferences. It was very appropriate to the theme of the conference "leadership & legacy" as without YA's having support from their community helpers, they are not able to continue the legacy of London 2012 ready for Glasgow 2014, and to work on getting every child hooked on sport for life.

Having previous experience in being on a panel, our Gold YA coped very well with the hot seated questions and responded well to the audience contribution. The questions were flying in from the audience and in my opinion; the only downfall was that it should have been the main workshop, so everyone could have heard the panel!

Meeting Lord Sebastian Coe was definitely a key highlight of my day as he chatted to me about my YA work and the dancing role I have, and also the experiences I’ve had which was really enjoyable, he was very down to earth and seemed like a lovely gentleman.

The final keynote speaker Dr Paul Thomas was also a very inspirational person, I thoroughly enjoyed his speech as he always had the audience involved with his stories and expressed the key points for successful leadership and company management.

I feel very lucky being invited to the Sport Wales Conference; it was a brilliant lifetime experience.

Arwain Cenhedlaeth – Mudiad y Llysgenhadon Ifanc yn mynegi ei feddyliau am Gynhadledd Chwaraeon Cymru 2013

Fel arweinwyr y dyfodol, chwaraeodd y Llysgenhadon Ifanc ran bwysig yn y gynhadledd eleni. Dyma’r Llysgenhadon Ifanc Platinwm, Carwen Richards a Natalie Davies, i roi eu barn ar y diwrnod ...

Carwen Richards, Prifysgol Bangor

Roedd y Llysgenhadon Ifanc yn rhan bwysig drwy gydol y dydd yng nghynhadledd Chwaraeon Cymru eleni. Fy rôl i oedd hwyluso yn ystod sesiwn hawl i holi a oedd yn cynnwys panel o 5 o unigolion sy’n gysylltiedig ar hyn o bryd â rhaglen y Llysgenhadon Ifanc. Roedd hwn yn brofiad ffantastig i mi ac i Natalie fel hwyluswyr, a hefyd i Molly, Llysgennad arall a oedd ar y panel.

Ein prif bwnc ni oedd ‘Pwysigrwydd cefnogi’r Llysgenhadon Ifanc i ymgymryd â’u rôl’. Cawsom gwestiynau o’r llawr, a drafodwyd wedyn gan y panel; nodwyd rhai awgrymiadau a syniadau gwych gan y panel profiadol, yn ogystal â’r gynulleidfa.

Fe wnes i fwynhau cyfarfod yr Arglwydd Seb Coe yn arbennig, a hefyd y Llysgenhadon Ifanc eraill a oedd yn bresennol o bob cwr o’r wlad. Roedd Llysgenhadon Ifanc Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm yn cael eu cynrychioli ar y diwrnod.

Roedd Dr Paul Thomas, un o’r prif siaradwyr, yn uchafbwynt hefyd. Fe edrychodd ar arweiniad a rheolaeth mewn ffordd ddoniol a gonest iawn. Fel person ifanc a myfyriwr, roeddwn i’n gallu uniaethu â’i straeon, ac roeddwn i’n teimlo ’mod i wedi dysgu llawer am fywyd yn gyffredinol gan ei araith!

Yn bersonol, roeddwn i’n teimlo bod cyfraniad y Llysgenhadon Ifanc drwy gydol y dydd yn hanfodol. Fel Llysgennad Ifanc, rydw i’n teimlo bod posib i ni roi popeth mewn persbectif. Rydyn ni’n bobl ifanc; rydyn ni’n bobl ifanc sydd eisiau arwain eraill a gwneud i eraill ddilyn ein harweiniad ni.

I gloi, rydw i’n credu bod Cynhadledd Chwaraeon Cymru 2013 yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn fuddiol i ni fod yn rhan o ddiwrnod mor bleserus, gan gymysgu gydag enwogion fel Jamie Baulch, Rupert Moon a’r Arglwydd Seb Coe fel ein ffrindiau ni!

O’m safbwynt i, roedd ein cael ni yno’n fuddiol hefyd i’r cyfranogwyr yn y gweithdai; i glywed lleisiau pobl ifanc yn uniongyrchol a thrafod ein profiadau fel Llysgenhadon Ifanc gyda ni. Rydyn ni i gyd yn anelu at yr un peth: Cynnydd yn y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, a bydd cael cymaint o bobl ifanc amldalentog yn lledaenu’r gair am chwaraeon ymhlith y rhai sy’n poeni am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru yn agor mwy o ddrysau i ni yn y dyfodol yn sicr.

Natalie Davies, Coleg Castell-Nedd Port Talbot

Fe gefais i’r pleser o fynychu cynhadledd flynyddol Chwaraeon Cymru ddydd Llun yr 17eg o Fehefin. Rydw i wrth fy modd yn mynychu ac yn cyfrannu at ddyddiau cynhadledd, oherwydd maen nhw bob amser yn llawn ysbrydoliaeth.

Fy rôl i yn y gynhadledd oedd hwyluso panel Hawl i Holi yn seiliedig ar bwysigrwydd cefnogi’r Llysgenhadon Ifanc. Ar y panel roedd cynrychiolwyr o sawl maes; corff rheoli chwaraeon, swyddog 5x60, aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru, Pennaeth Ysgol a Llysgennad Ifanc Aur.

Y panel oedd un o’r goreuon o’mhrofiad i’n mynychu cynadleddau amrywiol. Roedd yn briodol iawn i thema’r gynhadledd, sef "arweiniad ac etifeddiaeth", oherwydd heb i Lysgenhadon Ifanc gael help gan eu cynorthwywyr cymunedol, nid ydynt yn gallu dal ati ag etifeddiaeth Llundain 2012, yn barod ar gyfer Glasgow 2014, a gweithio ar gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes.

Wedi profiad blaenorol o fod ar banel, fe ymdopodd ein Llysgennad Ifanc Aur ni’n dda iawn gyda’r cwestiynau llosg ac ymatebodd yn dda i gyfraniad y gynulleidfa.

Roedd llawer o gwestiynau’n cael eu holi o’r gynulleidfa ac, yn fy marn i, yr unig anfantais oedd nad oedd hwn yn brif weithdy, fel bod pawb wedi cael clywed y panel!

Roedd cyfarfod yr Arglwydd Sebastian Coe yn sicr yn uchafbwynt mawr i fy niwrnod, wrth iddo sgwrsio gyda mi am fy ngwaith fel Llysgennad Ifanc a’r rôl ddawnsio sydd gen i, a hefyd y profiadau rydw i wedi’u cael, a oedd yn bleserus iawn. Roedd yn agos atoch chi ac yn ddyn hyfryd.

Roedd y prif siaradwr olaf, Dr Paul Thomas, yn berson ysbrydoledig iawn hefyd. Fe wnes i wir fwynhau ei araith, oherwydd roedd y gynulleidfa’n rhan o’i straeon drwy gydol y cyflwyniad a mynegodd bwyntiau allweddol ar gyfer arweiniad llwyddiannus a rheoli cwmnïau.

Rydw i’n teimlo’n lwcus fy mod i wedi cael gwahoddiad i Gynhadledd Chwaraeon Cymru; roedd yn brofiad gwych i mi.