Monday, July 18, 2011

Llysgenhadon Ieuainc: Ysbrydoli Drwy Chwaraeon

Gyda blwyddyn i fynd tan yr Olympaidd 2012 yn Llundain, mae un o’r rhoddion y Gemau yn talu I ffwrdd yn barod yma yn Nghymru.  Ffurfiasant y symudiad Llysgenhadon Ieuainc, mewn partneriad gan adidas, Youth Sport Trust, LOCOG a Chwaraeon Cymru, i rhoi mwy o lais i bobl ifanc ac i galluogi gwirfiddolwyr ifanc addas i rhannu negeseuon yr Olympaidd a Paralympaidd efo pobl ifanc eraill i ysbrydoli nhw i gymryd rhan mewn chwaraeon.  

Clywson ni gan dau o’r
Llysgenhadon Ieuainc ysbrydoledig yma, o Rhondda Cynon Taff, am eu profiadau hyd at nawr.

Mae Llundain 2012 yn prysur agosáu ac mae’n ymddangos bod mudiad y Llysgenhadon Ieuainc wir yn mynd o nerth i nerth. Fel Llysgenhadon Ieuainc, rydym ni’n gweithredu fel modelau rôl i bobl ifanc eraill yn ein hysgolion a’n cymunedau ni, i’w hysbrydoli nhw i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i greu mwy o ymwybyddiaeth o Lundain 2012 a’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.      
   
Gyda thua 300 o Lysgenhadon Ieuainc Aur ac adiStar i’w cael ledled Cymru, mae enghreifftiau o straeon llwyddiannus yn dod i’r amlwg ar hyd a lled y wlad, ac enghreifftiau o bwysigrwydd rhoi grym i bobl ifanc i ddod yn amlwg, gan arwain at ymestyn ar draws pob sector o chwaraeon yng Nghymru. Mae’r wythnos ddiwethaf hon yn arbennig wedi dangos angen cynyddol am roi pwyslais ar ddylanwad pobl ifanc mewn chwaraeon, yn enwedig Llysgenhadon Ieuainc.    

Aeth y ddau ohonom i Gynhadledd Rhanddeiliaid Chwaraeon Cymru a chyflwyno gweithdy yn dwyn y teitl, ‘Cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes – Sut mae gwneud hynny!’ Roedd hwn yn gyfle gwych i ni ddylanwadu ar y bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau ledled Cymru, ac yn her y gwnaethom ei mwynhau’n fawr iawn.

Cawsom gyfle i egluro sut rydym ni’n dau’n brysur yn ein hysgol a’n cymuned, yn debyg iawn i bob Llysgennad Ifanc arall, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol fel gweithgareddau 5x60, hyfforddiant cymunedol a gwaith gwirfoddol arall yn ein hysgolion a’n hardaloedd lleol.     
     
Hefyd, roedd Natalie Davies, Llysgennad Aur arall o Ysgol Gyfun Maesteg, yn bresennol yn y Gynhadledd a rhannodd ei llwyddiannau rhyfeddol hi fel LlI. Ar ddechrau’r flwyddyn, sefydlodd ysgol ddawns yn ei chymuned leol, sydd wedi denu mwy na 60 o blant bob wythnos. Cystadlodd yr ysgol ym Mhencampwriaethau Hip-Hop Prydain yn ddiweddar, gan ddod yn drydydd, sy’n golygu eu bod nhw wedi cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Hip-Hop y Byd yn Las Vegas. Roedd hi wir yn ysbrydoliaeth i ni ac os nad ydy hynny’n amlinellu effaith pobl ifanc ar gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ac annog pobl ifanc eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon a’u mwynhau, yna dyn a ŵyr beth sydd!  
             
Yn ein barn ni, roedd y gynhadledd yn gyflawniad gwych. Roedd yn gyfle i grŵp mawr o bobl sy’n meddwl mewn ffordd debyg, nid yn unig o’r sector chwaraeon, ond o’r sectorau iechyd ac addysg hefyd, i ymgynnull a rhannu syniadau a gwybodaeth ynghylch gweithredu’r ‘Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru’. Hefyd, roedd y Gynhadledd yn gyfle gwych i Natalie ac i ninnau gyflwyno’r cyfrifoldebau y gall y Llysgenhadon Ieuainc ymgymryd â nhw a sôn am ein llais unigryw sydd â grym i gael effaith ar chwaraeon yng Nghymru. 

Efallai bod rhai’n cwestiynu dibynadwyedd a photensial pobl ifanc i gael effaith ar chwaraeon ond mae’n dod yn fwy a mwy amlwg bod gennym ni allu i ysbrydoli eraill mewn ffordd gadarnhaol. Drwy ddefnyddio Llundain 2012 a’r ‘Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru’ fel catalyddion, mae ein swyddogaeth ni fel Llysgenhadon Ieuainc yn dod yn adnodd hanfodol er mwyn cyrraedd nod uchelgeisiol Cymru o gael ‘Pob Plentyn Wedi Gwirioni ar Chwaraeon am Oes’.

Er bod y mudiad LlI yn dal i ddatblygu a gwneud cynnydd, rydym ni angen pobl i wrando arnom ni o hyd, ac i roi’r grym yn ein dwylo ni. Felly cymerwch risg os gwelwch yn dda a rhowch gyfle i ni ddangos beth gallwn ni ei gyflawni!

Adam Anzani-Jones ac Ollie Smith,
Llysgenhadon Ieuainc Aur, RhCT