Friday, February 10, 2012

200 diwrnod i fynd tan y Gemau Paralympaidd Llundain 2012

Mae hi'n 200 diwrnod i fynd tan y Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ag i dddathlu'r cam yma mae'r Gweinidog Chwaraeon, Huw Lewis AC, yn siarad am llwyddiant Cymru yn datblygu chwaraeon anabledd gorau'r byd.


Mae chwaraeon yn bwysig. Maen nhw’n gwneud llawer iawn mwy na dim ond adlewyrchu’r byd yr ydym yn byw ynddo. Mae ganddyn nhw’r pŵer i’w newid hefyd. Ac nid yw hynny’n fwy gwir yn unman nag yn achos y Gemau Paralympaidd. Yn ystod Gemau a gynhaliwyd yn y blynyddoedd diwethaf, cafodd Cymru ei hysbrydoli ar ôl clywed hanesion lu am ddewrder pobl ac am eu llwyddiant yn wyneb anfanteision. Fe’i hysbrydolwyd hefyd ar ôl gweld ein hathletwyr yn cyrraedd y brig ac yn dod â bri i Dîm Paralympaidd Prydain Fawr. Mae Llundain 2012 yn argoeli’n dda eisoes, a chan y bydd y Gemau yn gymaint nes adref, mae’n debyg mai cynyddu a wnaiff y brwdfrydedd wrth iddyn nhw nesáu.


Dim ond 200 diwrnod sydd i fynd tan ddechrau’r Gemau, a chynyddu mae’r cyffro hefyd. Mae’n amser da, felly, i ni longyfarch yr athletwyr hynny o Gymru sydd wedi cael eu dewis eisoes ar gyfer Tîm Paralympaidd Prydain Fawr. Mae Steve Thomas, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi’i ddewis ar gyfer y tîm hwylio, ac mae bron hanner aelodau’r tîm Tennis Bwrdd a gyhoeddwyd hyd yma yn athletwyr o Gymru. Bydd Sara Head, Paul Davies, Paul Karabardak a Rob Davies yn cael eu hyfforddi gan Neil Robinson, o Ben-y-bont ar Ogwr.


Mae gan Gymru hanes rhagorol fel meithrinfa ar gyfer athletwyr Paralympaidd o’r radd flaenaf. Yn Beijing, enillodd athletwyr o Gymru chwarter y medalau aur a enillwyd gan Dîm Paralympaidd Prydain Fawr, sy’n dipyn o gamp. Dw i’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith bod Cymru ar flaen y gad ym maes chwaraeon i bobl anabl, a hynny ar bob lefel. Mae hyn yn tystio i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Chwaraeon Anabledd Cymru, ei swyddogion a’i lu o wirfoddolwyr, ac yn tystio hefyd i ymroddiad llwyr yr athletwyr a’r hyfforddwyr. Y llwyddiant hwn, ynghyd â’r cyfleusterau o safon byd eang sydd gennym yma yng Nghymru, sydd wedi helpu i ddenu timau Paralympaidd i sefydlu Gwersylloedd Hyfforddi yma cyn y Gemau.

Mae hwn yn gyfle heb ei ail i’n hathletwyr gael cystadlu gartref, a dw i’n ffyddiog y bydd gan Gymru, a Thîm Paralympaidd Prydain Fawr, le i ymfalchïo ynddyn nhw.