I gyd-fynd â dechrau Gemau Cymru, mae Efa Gruffudd Jones yn esbonio sut mae’r Urdd wedi ymrwymo i gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes trwy gyfrwng y Gymraeg.
To coincide with the start of Gemau Cymru, Efa Gruffudd Jones explains how the Urdd are committed to getting every child hooked on sport for life through the medium of Welsh.
A ninnau newydd dreulio wythnos yn cynnal ein Heisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro, mae’n gyfle gwych i ni ystyried y ddarpariaeth sydd gennym ni ar gyfer plant a phobl ifanc.
Tra bod cystadlaethau wedi eu cynnal mewn amryw o leoliadau o amgylch y Maes, gyda phobl ifanc yn teithio o bob rhan o Gymru i ddechrau cystadlu am 7:45, roedd ein gwersylloedd hefyd yn brysur gyda phlant yn aros yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd yn ystod yr wythnos.
Bu cyfle i’r rhai a oedd yn aros yng Ngwersyll Glan-llyn geufadu, hwylio a dringo, ambell un am y tro cyntaf erioed, tra roedd cyfle i’r gwersyllwyr yn Llangrannog sgïo, nofio a reidio ceffylau.
Mae’ r Urdd wedi bod yn cynnal Eisteddfod ers 1922, ac mae’r gwersylloedd yn bodoli ers amser maith hefyd. Rydym wastad yn gwybod fod plant a phobl ifanc yn mwynhau profiadau newydd, ac mae’r Urdd yn awyddus iawn i ddarparu'r cyfleoedd hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roeddem yn falch iawn o gael cyhoeddi yn ein Heisteddfod fuddsoddiad pellach gan Chwaraeon Cymru yn ein gwaith cymunedol. Gyda’r gefnogaeth hon mae ein darpariaeth yn y gymuned wedi ei drawsnewid. Roedd yn wych cael cyfarfod y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, i ddweud mwy wrtho am waith yr Urdd. Cafodd gyfle i weld ein gweithgareddau chwaraeon ar y Maes, gan gynnwys sesiynau blasu sydd wedi cynnig cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu sgil newydd ar y Maes.
Er bod yr Eisteddfod wedi cael llawer o sylw yn ystod yr wythnos, efallai nad yw rhai pobl yn sylweddoli bod ein swyddogion wedi bod yn brysur iawn hefyd yn y gymuned yn cynnal gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, yn amrywio o wersyll dawns yn Ninbych i weithdy tennis yng Nghaerdydd, syrffio yn Llangennith a gŵyl bêl-rwyd ym Mangor.
Ymysg llwyddiannau mwyaf yr Adran Chwaraeon llynedd mae 81 clwb cymunedol wedi eu sefydlu, sydd yn dod a’r cyfanswm i 160; cyflwyno gweithgareddau i deuluoedd, cynnig gweithgareddau i 7,639 yn ystod gwyliau ysgol a denu 40,000 i gystadlu yn ein cystadlaethau. Rydym wedi hyfforddi 1,002 o bobl ifanc i wirfoddoli yn ein clybiau chwaraeon.
Heddiw, rydym yn lansio Gemau Cymru, a gynhelir ym mhob cwr o Gaerdydd dros y penwythnos (5 – 7 Gorffennaf).
Digwyddiad aml-gamp a gynhelir dros dri diwrnod yw Gemau Cymru, gyda 12 elfen gystadleuol – athletau, canŵio, gymnasteg, hwylio, nofio, pêl-droed, pêl-rwyd, rhwyfo, rygbi 7 bob ochr / atomic touch, sboncen, tennis bwrdd a triathlon. Mae’r cynnydd yn y cystadlaethau yn destament i lwyddiant y Gemau. Rydym hefyd yn falch ein bod yn gallu cynnwys unigolion gydag anableddau yn ein cystadlaethau nofio, tennis bwrdd, athletau a phêl-fasged ac rydym yn disgwyl dros 1,000 o gystadleuwyr.
Felly mae digon i wneud! Ond rydym yn hynod o falch o allu cynnig cyfleoedd i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn mwynhau chwaraeon am eu hoes - ac yn gyffrous iawn y gallwn wneud hyn oll trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gwybod fod galw mawr am yr hyn ydym ni yn ei gynnig - ac rydym yn benderfynol o ateb yr anghenion hyn. Mae plant a phobl ifanc yn haeddu cael cynnig y ddarpariaeth.
Os hoffech wybod mwy am waith yr Urdd, ewch i urdd.org.
With our National Eisteddfod just held in Pembrokeshire the end of May, it seems a good time to reflect on all the Urdd can offer children and young people.Whilst the competitions have been taking place at the various Pavilions around the Maes, with young people travelling from all over Wales to sing and dance as early as 7.45am, our residential centres werealso busy with children staying at Llangrannog, Glan-llyn and at the Wales Millennium Centre all week.Those staying at our centre in Glan-llyn were able to do some kayaking, sailing and climbing, very possibly for the first time, whilst those at Llangrannog were able to ski, swim and enjoy horse riding. The Urdd has been holding its Eisteddfod since 1922, and the residential centres have been established for a long time. We have always known that children and young people enjoy new experiences, and the Urdd is passionate about providing these experiences through the medium of Welsh.We were delighted at our Eisteddfod to announce a further investment by Sport Wales in our community work. With that support – our community work has been totally transformed. It was really great to meet the Minister for Culture and Sport, John Griffiths, to welcome him to the Eisteddfod and tell him a little more about our work. He was able to see our sporting activities on the Eisteddfod ‘Maes’, including the taster sessions which have been offering hundreds of children a chance to learn a new sport skill in between the competitions.Although the Eisteddfod received a lot of publicity over the week, what people may not realise is that we also had a busy week with all our community projects over the school holidays, ranging from a dance camp in Denbigh, tennis workshops in Cardiff, surfing lessons in Llangennith and a netball festival in Bangor. Some of our headline performance figures for last year include establishing 81 new community clubs, taking us up to 160; introducing activities for families with 1500 participants, offering 7639 participants holiday provision and attracting 40,000 to take part in our competitions. We’ve also coached 1002 young people to help us with the running of our clubs.Today we launch Gemau Cymru, will take place over the weekend (5 to 7 July) all around Cardiff. Gemau Cymru is a multi-sport event held over three days, with 12 competitive elements - athletics, canoeing, gymnastics, sailing, swimming, football, netball, rowing, 7-a-side rugby / atomic touch, squash, table tennis and triathlon. The increase in competitions is a testament to the event’s success. We’re also very pleased that there will be a disability sport element in swimming, table tennis and basketball and we expect over a 1,000 competitors.So, plenty to do! But we really enjoy being able to provide experiences which ensure that children and young people get hooked on sport for life – and we are really excited about ensuring that can happen through the medium of Welsh. What we’ve discovered is that there is huge demand for our provision – and we are determined to meet children and young people’s expectations. They deserve nothing less.If you’d like to find out a bit more then visit urdd.org