Rydw i wir yn falch o glywed am y cynnydd yn y diddordeb yn ein clybiau ni ar lawr gwlad ar hyd a lled Cymru. Mae tystiolaeth o hyn i’w gael gan Gymnasteg Cymru (20%) a Nofio Cymru (39%), dau gorff sydd wedi gweld cynnydd mawr yn lefel eu haelodau yn ystod chwarter olaf y flwyddyn (link to hot topic story). Ac mae’n bleser clywed yr adroddiadau am fwy o fechgyn eisiau cymryd rhan mewn gymnasteg, sy’n dangos bod gwylio eu harwyr newydd yn cipio medalau yn Llundain yn gallu trosglwyddo’n uniongyrchol yn ddiddordeb newydd yn ein cymunedau ni.
Mae chwaraeon eraill - athletau (12%), beicio (24%), bocsio (33%) a hoci (32%) – i gyd wedi cofnodi cynnydd sylweddol hefyd. Ac mae sawl camp wedi gwneud argraff fawr, fel canŵio, sydd wedi dweud wrthym am y 30 o glybiau newydd sydd wedi cael eu sefydlu yng Nghymru, yn ogystal â’r nifer fawr sy’n rhan o raglen dysgu hwylio Hwylio Cymru yn awr, a’r cynlluniau treftadaeth mewn chwaraeon anabledd, fel eu ffocws ar y rhaglen inSport.
Ar y llaw arall, mae yna chwaraeon nad ydynt wedi gweld yr un twf, sy’n siom fawr i ni. Sut mae rhai chwaraeon a chlybiau wedi llwyddo i baratoi a marchnata eu hunain mor dda, ac wedi agor y drws i gyfranogwyr newydd, ac eto mewn chwaraeon eraill mae’r cyfleoedd unigryw a gyflwynwyd gan Lundain 2012 wedi’u colli yn ôl pob tebyg?
Rhaid diolch bod y darlun cyffredinol yn un cadarnhaol ond, wrth i ni ddatblygu Egwyddorion Buddsoddiad Partner newydd, gadewch i mi ddatgan yn glir mai’r rhai sydd wedi dangos eu bod yn gallu bod yn llwyddiannus drwy gynllunio a rhoi hwb i nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon fydd yn cael eu hystyried fel partneriaid cryf a dibynadwy ar gyfer cyflawni ein gweledigaeth pan fydd raid i ni wneud penderfyniadau cyllido anodd.
Mae’n rhaid i ni gofio bob amser mai braint, ac nid hawl, yw arian cyhoeddus, a byddwn yn edrych yn fanwl ar bob ceiniog y byddwn yn ei buddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd gennym ni i gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon ac i ragori ar ein disgwyliadau ar y llwyfan elitaidd.
Fel aelod o Fwrdd UK Sport, rydw i’n gwybod pa mor anodd yw gwneud penderfyniadau am gyllid. Mae’r cyhoeddiadau cyllido diweddar sy’n arwain at y Gemau Olympaidd a Pharlympaidd nesaf yn Rio 2016 yn arwydd o’r diwylliant sy’n bodoli mewn chwaraeon. Mae’r rhai sy’n dangos eu bod yn cyflawni’n cael eu gwobrwyo ac ni fydd y rhai nad ydynt yn bodloni’r disgwyliadau a’r targedau’n cael llithro o’n gafael.
Mae ein Bwrdd ni yn Chwaraeon Cymru’n gefnogol i’r agwedd hon wrth i ni symud ymlaen yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, yn enwedig gan fod gennym ni gyfle ffantastig arall i hybu chwaraeon gyda Gemau’r Gymanwlad yn 2014.
Gan ddychwelyd at lawr gwlad unwaith eto, rydw i dal yn poeni braidd am y diffyg tystiolaeth gan rai partneriaid o gynllunio ar gyfer anghenion ein gweithlu yng Nghymru. Mae meddwl am dargedau ac uchelgais ar gyfer cyfranogiad yn dderbyniol iawn, ond mae’n rhaid priodi hyn â chynlluniau manwl ar gyfer hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a’r gweithlu di-dâl, i’w cefnogi.
Rydyn ni wedi gweld cynnydd cadarnhaol yn ein gwaith ni i ddatblygu arweinwyr ifanc ac i gefnogi hyfforddwyr elitaidd, fel dwy enghraifft. Mae tua 1700 o Lysgenhadon Ifanc wedi cael eu recriwtio eleni yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd ni, ac yn y colegau a’r prifysgolion, i weithredu fel modelau rôl mewn chwaraeon. Hefyd, gan weithio mewn partneriaeth â Sports Leaders UK a sawl corff rheoli arall, rydyn ni wedi hyfforddi tua 6,000 o bobl ifanc mewn sgiliau arwain, i allu cyflwyno a helpu gyda chyfleoedd chwaraeon mewn ysgolion a chymunedau.
O ran perfformio ar lefel uchel, mae gennym ni yn awr hyfforddwyr elitaidd, neu hyfforddwyr sy’n anelu at fod yn rhai elitaidd, ar raglen mentora hyfforddwyr Inspire/Aspire y DU – gan gynnwys hyfforddwraig Gymnasteg Cymru, Olivia Bryl, a gafodd ei henwi’n ddiweddar yn Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Hyfforddi’r DU.
Ond hyd nes bod agenda’r gweithlu yn eitem reolaidd ym mhob cyfarfod bwrdd, ac yn amlwg ym mhob cynllun busnes gan bartneriaid, yna rydyn ni’n colli cyfleoedd i sicrhau cynnydd go iawn. A chofiwch, bydd Chwaraeon Cymru’n edrych yn fanwl iawn ar ein gwaith ni ein hunain yn y maes hwn hefyd, yn enwedig os ydyn ni am edrych ar sut gallwn ni gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad, fel bod ganddynt wybodaeth, cefnogaeth a chyllid pan mae arnynt eu hangen. Ar hyn o bryd, mae’r gwaith ymchwil yn dangos mai eithriad yw’r wybodaeth a’r gefnogaeth hon, yn hytrach na rheol.
Yn fwy nag erioed, mae’r chwe mis diwethaf wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd ysgolion a’r sector addysg yn ei gyfanrwydd i’n gwaith ni dros chwaraeon.
Rydych chi i gyd yn gwybod bod gennym ni Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y cyd â Gweinidogion yn ei le erbyn hyn, a bydd yn adrodd yn ôl ar ei waith yn nes ymlaen eleni.
Rydw i o’r farn bod ysgol sy’n rhoi lle canolog ac allweddol i chwaraeon yn ysgol sy’n perfformio ar lefel uchel.
Ac wrth gyfeirio at dystiolaeth, rydyn ni ar hyn o bryd yn gwneud y paratoadau terfynol ar gyfer yr Arolwg yr ydym yn ei gynnal bob dwy flynedd ar Chwaraeon Ysgol.
Roedd sicrhau’r arolwg mwyaf ar ddisgyblion ysgol yng Nghymru yn 2011 yn galonogol iawn i ni, yn enwedig yn ystod y cyfnod yn arwain at 2012. Ond hefyd roedd llawer o awdurdodau lleol ac ysgolion na chawsant y data priodol am nad oeddent wedi sicrhau cyfraddau ymateb digonol.
Mae’n gwestiwn teg i’w ofyn: sut gallant gynllunio i ehangu, darparu adnoddau a buddsoddi heb y darlun manwl yma o chwaraeon ar gyfer pobl ifanc?
Bydd lefel y data a gaiff eu casglu drwy Arolwg 2013 ar Chwaraeon Ysgol yn galluogi i ni wneud cynnydd sylweddol o ran deall beth sy’n digwydd ‘ar y tir’, a deall agweddau disgyblion tuag at chwaraeon a hamdden gorfforol. Bydd hefyd yn sail i’n penderfyniadau ni ar gynllunio, a dyna pam mae mor bwysig i’n partneriaid ni – yn enwedig mewn awdurdodau lleol – wrth i ni edrych ar adeiladu ar y digwyddiadau mawr yn Llundain yn 2012 a Glasgow 2014.
Yn fwy nag erioed, byddwn yn defnyddio’r ymchwil yma sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddylanwadu ar y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud am adnoddau – fel rydw i wedi’i grybwyll uchod.
Yn 2013 byddwn yn dal ati i wthio ymlaen gyda phwyslais cryfach ar ferched a genethod, gan sicrhau bod tlodi plant a chwaraeon yn cael lle blaenllaw yn ein gwaith ni hefyd, a sicrhau cynnydd o ran cael grwpiau eraill a dangynrychiolir i gymryd rhan mewn chwaraeon. Nid yw cynlluniau chwaraeon nad ydynt yn cynnwys y meysydd hyn yn gynlluniau chwaraeon sy’n diwallu anghenion ein dinasyddion ni i gyd.
Yn olaf, fe hoffwn i orffen y blog diweddaraf yma gyda gair am Dr Huw Jones, ein Prif Weithredwr ni sydd newydd gyhoeddi ei fwriad i ymddeol o’i swydd yn nes ymlaen eleni.
Mae Huw wedi cael effaith anhygoel ar chwaraeon yn ystod ei gyfnod yn Chwaraeon Cymru, gan gynnwys 15 mlynedd fel Prif Weithredwr, a bydd ffrwyth ei waith caled, ei frwdfrydedd a’i broffesiynoldeb yn dreftadaeth barhaus. Mae Huw wedi bod yn gydweithiwr rhagorol i mi ac i bob un ohonoch chi, a bydd yn anodd llenwi’r bwlch mae’n ei adael ar ei ôl. Ar eich rhan chi i gyd, hoffwn ddiolch i Huw am ei waith rhagorol dros chwaraeon yng Nghymru.
Ond mae hwn yn gyfle i ni hefyd edrych ymlaen at y broses recriwtio ar gyfer Prif Swyddog Gweithredol newydd, ar adeg pan mae Chwaraeon Cymru yn uchel iawn ei barch a phroffil chwaraeon yng Nghymru mor gadarnhaol. Bydd gen i fwy o newyddion am y cynnydd wrth i ni barhau i chwilio am y person mwyaf priodol; person sydd ag egni a brwdfrydedd i barhau i’n symud ni tuag at ein Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.
Dydi chwaraeon erioed wedi mwynhau proffil mor uchel, ond ynghlwm wrth hynny mae mwy fyth o graffu. Mae Huw wedi llywio’r sefydliad drwy newid diwylliannol sylweddol, gan bennu gweledigaeth a thargedau newydd uchelgeisiol ar hyd y daith. Gallaf eich sicrhau chi na fyddwn yn gwyro oddi wrth y cyfeiriad strategol sydd wedi cael ei roi yn ei le, am y rheswm syml mai hwn yw’r un iawn.