Thursday, December 6, 2012

A Sporting Place for All in Wales by the Ministers for Sport and Equalities

With the release of new research into gay participation in Welsh sport, Sports Minister Huw Lewis & Minister for Equalities Jane Hutt talk jointly about what it means for Wales.

We are extremely grateful to Stonewall Cymru and Sport Wales for the research they have undertaken. As this important piece of work will have implications for both of our portfolios, we, as Sports Minister and Minister for Equalities, felt that both of our voices should be heard.

The issues raised are not just for equality bodies, nor are they simply sporting issues. The challenge for the Welsh Government in increasing participation for LGB people in sport in Wales will involve both of us and we look forward to working together on this important issue.

We welcome the report launched today (Thursday 6 December), which offers a glimpse into how lesbian, gay and bisexual people living in Wales experience and view sport, and will carefully consider its recommendations.

With these two esteemed organisations working in partnership, we can be assured that all of the important issues facing LGB people in Wales in relation to sport will be considered and action will be taken.

We, the Welsh Government, have a determination and a commitment to ensure that we build a Welsh society that treats all people with dignity and respect. Whenever you access local services, for example in healthcare or housing, the last thing that should be on your mind is whether you will be treated differently because of your sexual orientation.

It is imperative that no-one be denied opportunities because of their sexual orientation and sport is no different in this respect.

Sport can bring people together; it can bind and regenerate our communities. You only need to look to the east end of London to see how much good sport can do to help to revive run-down areas.

Sport and physical activity are also vital in promoting healthy lifestyles and making people feel good about themselves, and as a nation. Regular physical activity has many benefits to health, including mental health and well-being. People who are active have up to a 50% reduced risk of developing the major chronic diseases and a 20-30% reduced risk of premature death.

It is not hard to see why we want to see a nation “hooked for life” on sport.

We want increased participation at every age, gender, and social group imaginable, including lesbian, gay and bisexual people.

Increasing participation means the benefits we have already mentioned are enjoyed by more and more people, which can in turn have an incredible impact on a nation’s health, mood and prosperity.

However, if there are barriers to this uptake, then it is our job to help to remove them.

And by “our”, we mean all of us.

Homophobia has silenced lesbian, gay and bisexual athletes, coaches and fans for much of the past hundred years. While there has been some comment on the existence of homophobia in football in this country, even less comment has been made on the wider picture; which is of an environment unfortunately lagging behind the main stream.

In the last ten years we have seen new employment rights, changes to civil partnerships and adoption law and the removal of Section 28 of the Local Government Act, all of which has transformed the everyday lives of LGB people. We now have a law criminalising homophobic hatred which brings protections for LGB people in line with laws against racial and religious hatred.

Why, therefore, should this be any different in the sporting arena?

This Government is committed to tearing down the barriers to equal opportunities and building a fairer society. We are a small yet tolerant nation but for us to truly grow sport in this country we must include every part of society.

Thankfully a number of professional athletes in recent years have talked openly about their own sexual orientation and many more of their team mates and competitors feel able to speak up in support of them. It should no longer be the burden of brave athletes and role models like Nigel Owens, Gareth Thomas and Martina Navratilova to help to remove the stigma for LGB athletes and coaches. It is a job for us all.

**

Rydyn ni’n eithriadol ddiolchgar i Stonewall Cymru a Chwaraeon Cymru am yr ymchwil y maen nhw wedi’i wneud. Bydd y darn pwysig yma o waith yn effeithio ar bortffolios y ddau ohonom ni fel Gweinidog Chwaraeon a Gweinidog Cydraddoldeb, ac felly rydyn ni’n teimlo bod rhaid i’n lleisiau ni gael eu clywed.

Nid dim ond i gyrff cydraddoldeb y mae’r materion sydd wedi’u codi yn berthnasol, ac nid dim ond materion chwaraeon ydyn nhw chwaith. Bydd yr her i Lywodraeth Cymru o ran cynyddu cyfranogiad ymhlith pobl LHD mewn chwaraeon yng Nghymru yn cynnwys y ddau ohonom ni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio ar y mater pwysig yma.      

Rydyn ni’n croesawu’r adroddiad sydd wedi’i lansio heddiw (dydd Iau 6 Rhagfyr), sy’n cynnig cipolwg ar sut mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n byw yng Nghymru yn profi ac yn gweld chwaraeon, a byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus.

Gyda’r ddau sefydliad uchel eu parch yma’n gweithio mewn partneriaeth, gallwn fod yn dawel ein meddwl y bydd y materion pwysig sy’n wynebu pobl LHD yng Nghymru mewn perthynas â chwaraeon yn cael eu hystyried ac y bydd camau gweithredu’n cael eu cymryd.

Rydyn ni yn Llywodraeth Cymru yn dangos penderfyniad ac ymrwymiad i sicrhau ein bod ni’n creu cymdeithas yng Nghymru sy’n trin pob unigolyn gydag urddas a pharch. Pa bryd bynnag y byddwch chi’n defnyddio gwasanaethau lleol, er enghraifft, gofal iechyd neu dai, y peth olaf ddylai fod ar eich meddwl chi ydi a fyddwch chi’n cael eich trin yn wahanol oherwydd eich tueddfryd rhywiol.

Mae’n hanfodol sicrhau nad oes unrhyw un yn methu manteisio ar gyfleoedd oherwydd eu tueddfryd rhywiol, ac nid yw chwaraeon yn wahanol yn y cyswllt hwn.

Mae chwaraeon yn gallu dod â phobl at ei gilydd, gan uno ac adfywio ein cymunedau ni. Does ond rhaid i ni edrych ar ddwyrain Llundain i weld faint o les mae chwaraeon yn gallu ei wneud o ran adfywio ardaloedd difreintiedig.

Hefyd mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hanfodol er mwyn hybu ffyrdd iach o fyw a gwneud i bobl deimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain, ac fel cenedl. Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn sicrhau manteision niferus i iechyd, gan gynnwys iechyd a lles y meddwl. Mae gan bobl egnïol hyd at 50% yn llai o risg o ddatblygu afiechydon cronig mawr a 20-30% yn llai o risg o farw cyn eu hamser.

’Dyw hi ddim yn anodd deall pam ein bod ni eisiau sefydlu cenedl sydd wedi “gwirioni am oes” ar chwaraeon.

Rydyn ni eisiau gweld mwy o gymryd rhan ym mhob grŵp oedran, rhyw a chymdeithasol posib, gan gynnwys pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.         

Mae cynyddu cyfranogiad yn golygu bod y manteision yr ydyn ni wedi’u crybwyll eisoes yn cael eu mwynhau gan fwy a mwy o bobl ac, yn ei dro, gall hynny gael effaith aruthrol ar iechyd, agwedd a ffyniant y genedl.  

Er hynny, os oes rhwystrau’n atal y cymryd rhan yma, yna ein gwaith ni yw helpu i’w goresgyn nhw.
Ac wrth gyfeirio at “ni”, rydyn ni’n golygu pob un ohonom ni.

Mae homoffobia wedi cadw athletwyr, hyfforddwyr a chefnogwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dawel am y can mlynedd diwethaf fwy neu lai. Er bod rhywfaint o gyfeirio wedi bod at fodolaeth homoffobia mewn pêl droed yn y wlad hon, does dim llawer o sôn wedi bod am y darlun ehangach; sef o amgylchedd sydd ar ei hôl hi o gymharu â’r brif ffrwd yn anffodus.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld hawliau cyflogaeth newydd, newidiadau i gyfraith partneriaethau sifil a mabwysiadu a dileu Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol, ac mae’r camau hyn i gyd wedi trawsnewid bywydau pobl LHD. Bellach mae gennym ni gyfraith sy’n golygu bod casineb homoffobig yn drosedd, gan sicrhau gwarchodaeth i bobl LHD yn unol â’r deddfau yn erbyn casineb hiliol a chrefyddol.         

Pam, felly, ddylai hyn fod yn wahanol yn yr arena chwaraeon?      

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i oresgyn y rhwystrau sy’n atal cyfleoedd cyfartal ac i greu cymdeithas deg. Rydyn ni’n genedl fechan ond goddefgar, ac er mwyn i ni allu mynd ati o ddifrif i ddatblygu chwaraeon yn y wlad hon, mae’n rhaid i ni gynnwys pob rhan o gymdeithas.

Testun diolch yw’r ffaith bod nifer o athletwyr proffesiynol wedi siarad yn agored yn ystod y blynyddoedd diwethaf am eu tueddfryd rhywiol eu hunain, a bod llawer o’u cyd-chwaraewyr a’u cyd-gystadleuwyr wedi teimlo eu bod yn gallu lleisio eu barn i’w cefnogi nhw. Ni ddylai fod yn faich bellach ar athletwyr dewr a modelau rôl fel Nigel Owens, Gareth Thomas a Martina Navratilova i helpu gyda chael gwared ar y stigma y mae athletwyr a hyfforddwyr LHD yn ei wynebu. Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i wneud hynny.