Mae Chwaraeon Cymru wedi lawnsio £250,000 o byddsoddiad i mewn i'r Urdd i sicrhau bod miloedd mwy o blant a phobol ifanc yn gwirioni ar chwaraon am oes. Dyma agwedd Uwch Swyddog Chwaraeon Cymru, Kathryn Thomas, sydd yn gweithio'n agos gyda Adran Chwaraeon yr Urdd.
Yr Urdd yw’r mudiad ieuenctid mwyaf yng Nghymru gyda mwy na 50,000 o aelodau. Mae Chwaraeon Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Urdd ers nifer o flynyddoedd ar ei raglen chwaraeon cymunedol. Mae wedi cael canlyniadau rhagorol ac wedi tynnu sylw at y galw cynyddol am ddarparu cyfleoedd chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yng ngoleuni hyn, a gyda lansiad diweddar Strategaeth Chwaraeon Cymunedol y sector, sydd ag amcan o gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes, mae Chwaraeon Cymru yn credu’n gryf bod yr Urdd yn bartner arwyddocaol wrth iddo geisio cyrraedd y nod hwn. Gyda’i rwydwaith cynyddol o Swyddogion Datblygu Chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, yn ystod y flwyddyn sydd i ddod bydd cyfleoedd ar lefelau amrywiol yn cael eu cynnig ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol ledled Cymru.
Y nod yw darparu cyfleoedd mewn amrywiaeth o chwaraeon yn yr holl grwpiau oedran. Bydd safon y sesiynau a’r clybiau’n amrywio er mwyn darparu ar gyfer pob gallu, a bydd cyswllt cynyddol â Chyrff Rheoli Cenedlaethol yn sicrhau bod cyfleoedd i blant symud ymlaen ar hyd y llwybr chwaraeon.
Mae’r targedau sydd wedi’u gosod yn uchelgeisiol iawn - 1300 o wirfoddolwyr a hyfforddwyr i sefydlu clybiau newydd a datblygu adrannau newydd mewn clybiau presennol; sefydlu 60 o glybiau newydd yn cynnig chwaraeon penodol a 68 o glybiau aml-chwaraeon newydd – a bydd y rhain i gyd ar wahân i gynnal a chadw’r clybiau presennol y ceir bron i 100 ohonynt mewn pocedi bychain ar hyd a lled Cymru. Ceir hefyd y 42,000 o blant a phobl ifanc y mae’r Urdd am eu cynnwys drwy gyfrwng ei strwythur cystadlu.
Fel y swyddog sy’n gweithio gyda’r Urdd, rydw i wedi gweld yn uniongyrchol sut mae’r Urdd yn gweithio ag ysgolion, timau datblygu chwaraeon yr awdurdodau lleol a Chyrff Rheoli Cenedlaethol er mwyn creu cyfleoedd newydd nad oedd yn bodoli o’r blaen. Mae rhai’n ystyried gwaith yr Urdd fel dyblygiad ond, gyda clybiau’n llawn a cheisiadau aml am sesiynau ychwanegol, mae’n amlwg bod galw heb ei fodloni’n bod.
Mae’r targedau sydd wedi’u gosod ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn uchelgeisiol a dweud y lleiaf, ond gyda brand cryf, enw da am gyflwyno, profiad, angerdd a gwybodaeth y staff, a’r galw cynyddol am yr iaith Gymraeg, maen nhw’n siŵr o gael eu cyrraedd.