Wednesday, April 18, 2012

Neud Chwaraeon Cymunedol cyfrif - gan Huw Lewis AC

Mae hi'n 100 diwrnod tan Llundain 2012 a mae Chwaraeon Cymru yn heddiw dechrau gyfres o blogs am Chwaraeon Cymunedol. Huw Lewis AC ydy'r Gweinidog Chwaraeon i Gymru.  

Gweinidog Chwaraeon Huw Lewis AC

Wrth dyfu i fyny, mae’n deg dweud mae’n debyg mai fi oedd y lleiaf talentog ym mhob camp bron o bron bob un o’m cyfoedion i! Ond er gwaetha’ hyn, rydw i, drwy gydol fy mywyd, wedi bod yn hynod ymwybodol o’r ffordd y mae chwaraeon yn gallu cyfoethogi bywydau pobl ac, yn arbennig, sut maen nhw’n gallu rhoi cyfle i bobl ifanc greu dyfodol positif iddyn nhw eu hunain. O’r dreftadaeth focsio gref yn fy nhref enedigol i, i’r cyfleusterau chwaraeon awyr agored y bu fy nhad yn helpu i’w sefydlu yn Aberfan, neu Glwb Pêl Droed rhagorol a newydd Tref Merthyr sy’n cael ei redeg gan y gymuned – rydw i wedi bod yn gwbl bendant fy meddwl erioed bod gan chwaraeon allu unigryw i dynnu teuluoedd a chymunedau at ei gilydd a’u cryfhau nhw.   

Felly, rydw i’n hynod falch bod Chwaraeon Cymru wedi datblygu strategaeth sy’n ceisio datblygu’r syniad hwn ymhellach. Mae’r strategaeth gymunedol newydd sy’n cael ei lansio heddiw yn ddigwyddiad cyffrous i chwaraeon yng Nghymru, ac i’n gwlad ni yn gyffredinol. Y rheswm am hyn, fel rydw i wedi’i ysgrifennu ar y safle hwn o’r blaen, yw am fod chwaraeon yn cyfrif. Maen nhw’n cyfrif y tu hwnt i ganlyniadau eich timau a’ch clybiau lleol chi – gall chwaraeon estyn allan at bob agwedd ar ein bywydau ni bron. Gall gweithgarwch corfforol wneud cyfraniad gwerthfawr at ein hiechyd a’n lles; gall ddenu pobl at ei gilydd a gall hefyd oresgyn rhwystrau.

Dyna pam fy mod i’n teimlo’n angerddol dros ei gwneud yn haws i bawb sicrhau mynediad i chwaraeon a dal ati i gymryd rhan drwy gydol eu hoes. Mae’r Llywodraeth hon yng Nghymru eisiau darparu sgiliau, hyder a chymhelliant i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon, a gwella’r ddarpariaeth o chwaraeon er mwyn diwallu anghenion amrywiol ein hunigolion a’n cymunedau ni. Rydyn ni eisiau cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n ymwneud yn frwd â chwaraeon a dal ati i gefnogi ein hathletwyr talentog presennol, a thalent y dyfodol, i sicrhau llwyddiant y gallwn ni ei ddathlu gyda’n gilydd.   
           
Dylai pob person ifanc gael cyfle i ddisgleirio a chael cyfle i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymuned, waeth beth yw eu hamgylchiadau. Gall ac mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig mewn helpu pobl ifanc a theuluoedd i ymdopi â sefyllfaoedd anodd a’u goresgyn, ac amcanu at ddyfodol gwell. Bydd y strategaeth hon, sy’n sefyll ochr yn ochr â Strategaeth Tlodi Plant Chwaraeon Cymru, yn chwarae ei rhan mewn helpu i leihau ac atal tlodi drwy leihau rhwystrau ac anghydraddoldeb.     
                                
Mae’r strategaeth hon yn ein herio ni i gyd yn gwbl briodol i feddwl yn wahanol am sut rydym ni’n ennyn a chynnal diddordeb pobl mewn chwaraeon, a’u brwdfrydedd nhw drostynt. Mae’n rhaid i ni fod yn heriol, yn uchelgeisiol ac yn flaengar ond hefyd mae’n rhaid i ni fod â ffocws ar wneud gwahaniaeth pendant ble mae ei angen fwyaf.

Croesawaf yn frwd ymrwymiad Chwaraeon Cymru a phartneriaid allweddol eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac yn y trydydd sector, i’r strategaeth hon ac i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r blaenoriaethau a geir ynddi. Does dim amheuaeth ein bod hi’n wynebu sawl her fawr er mwyn creu ym mhob rhan o Gymru strwythur chwaraeon cymunedol llwyddiannus a chynaliadwy, ond rwy’n credu bod modd i ni gyflawni hyn os gweithiwn ni’n ddidwyll ac yn onest gyda’n gilydd ac er lles ein gilydd.
Ysgrifennwyd y blog hwn i gyd-fynd â lansiad strategaeth ar gyfer Chwaraeon Cymunedol yng Nghymru. Os hoffech chi ddweud eich barn, byddwch yn rhan o’r drafodaeth ar twitter – gan ddefnyddio’r hashtag #communitysport a gallwch ein crybwyll ni ar @sport_wales